Rydym yn cydymffurfio â Rheoliadau Safonau’r Gymraeg sy’n golygu bod ein gwasanaethau ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Cyfathrebu

Gallwch ysgrifennu atom yn Gymraeg, trwy lythyr neu e-bost.

Galwadau ffôn

Nid oes gennym staff sy'n siarad Cymraeg ar hyn o bryd, felly mae galwadau ffôn yn cael eu hateb yn Saesneg yn unig. Os hoffech gyfathrebu yn Gymraeg, gallwch drefnu i ni eich ffonio yn ôl er mwyn i chi allu siarad yn Gymraeg.

Cwynion

Os hoffech wneud cwyn am gydymffurfedd yr NMC â Rheoliadau Safonau’r Gymraeg, codwch gŵyn yma.

Cyfarfodydd

Mae croeso i aelodau’r cyhoedd sy’n bwriadu mynychu ein cyfarfodydd cyhoeddus yng Nghymru siarad yn Gymraeg (rhowch rybudd ymlaen llaw).

Bydd hysbysiadau o gyfarfodydd cyhoeddus yng Nghymru, ynghyd ag unrhyw agendâu a chofnodion, yn ddwyieithog.

Hunaniaeth gorfforaethol

Mae gennym fersiynau Cymraeg o'n logo, hunaniaeth gorfforaethol a phenawdau llythyrau.

Cyhoeddiadau

Bydd cyhoeddiadau ar gyfer y cyhoedd ar gael yn Gymraeg. Mae safonau a chanllawiau proffesiynol yn cael eu cyfieithu ar gais.

Datganiadau i'r wasg a hysbysebu

Byddwn yn cyhoeddi datganiadau dwyieithog i'r wasg yng Nghymru pan fo hynny'n berthnasol. Darperir cyfieithiadau ar gais. Bydd hysbysebu a chyhoeddusrwydd yng Nghymru yn ddwyieithog, yn ogystal â hysbysebu mewn cylchgronau a phapurau newydd.

Rheoliadau safonau’r Gymraeg

Ers 6 Rhagfyr 2023 rydym o'r farn ein bod wedi cydymffurfio â Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 8) 2022. Mae'r safonau hyn wedi disodli ein Cynllun Iaith Gymraeg blaenorol.

Mae’r NMC yn ddarostyngedig i’r safonau a amlinellir yma yn y ddeddfwriaeth, ac eithrio safonau 9B, 9C a 18.

Mae’r NMC wedi cael estyniad i Safon 20, sy’n ymwneud â chyfieithu ffurflenni cais i ymuno â’r gofrestr. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi rhoi estyniad i ni tan fis Rhagfyr 2025 i weithredu’r safon hon oherwydd y rhaglen barhaus o ddiwygio rheoleiddio a allai newid ein prosesau cofrestru.

Mae ein hadroddiadau blynyddol blaenorol o dan y Cynllun Iaith Gymraeg ar gael yma. Bydd ein hadroddiad blynyddol wedi’i ddiweddaru o dan Reoliadau Safonau’r Gymraeg newydd ar gael ar y wefan hon ddim hwyrach na chwe mis ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol.

Rhagor o wybodaeth

Adroddiad monitro'r cynllun iaith Gymraeg

Using our services in Welsh

We comply with the Welsh Language Standards Regulations which means our services are available in both English and Welsh.

Communications

You can write to us in Welsh, by letter or email.

Telephone calls

We do not currently have Welsh-speaking staff, so phone calls are answered in English only. If you would like to communicate in Welsh, you can arrange for us to call you back so you can speak in Welsh.

Complaints

If you would like to make a complaint about the NMC’s compliance with the Welsh Language Standards Regulations, please raise a complaint here.

Meetings

Members of the public, who intend to attend our public meetings in Wales, are welcome to speak in Welsh (please give us advance notice).

Notices of public meetings in Wales, along with any agendas and minutes, will be bilingual.

Corporate identity

We have Welsh versions of our logo, corporate identity and letterheads.

Publications

Publications for the public will be available in Welsh. Professional standards and guidelines are translated upon request.

Press and advertising

We will issue bilingual press releases in Wales when applicable. Translations will be provided upon request. Advertising and publicity in Wales will be bilingual, as will advertising in magazines and newspapers.

Welsh language standards regulations

Since 6 December 2023 we consider we have been compliant with the Welsh Language Standards Regulations (No.8) 2022. These standards replaced our previous Welsh Language Scheme.

The NMC is subject to the standards outlined here in the legislation, with the exception of standards 9B, 9C and 18.

The NMC has been granted an extension to Standard 20, which relates to the translation of application forms to join the register. The Welsh Language Commissioner has granted us an extension until December 2025 to implement this standard due to the ongoing regulatory reform programme which may alter our registration processes.

Our previous annual reports under the Welsh Language Scheme are available here. Our updated annual report under the new Welsh Language Standards Regulations will be available on this website no later than six months after the end of the financial year.

More information

Welsh language monitoring reports:

These monitoring reports set out our compliance with the Welsh Language Standards Regulations which have applied since 6 December 2023, and the previous Welsh language scheme.