Os bydd un o baneli’r Pwyllgor Cymhwyster i Ymarfer wedi penderfynu bod cymhwyster i ymarfer nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio yn ddiffygiol, gallant osod amrywiaeth o sancsiynau (cyfyngiadau).
Diben y sancsiynau hyn yw:
- gwarchod y cyhoedd
- cynnal hyder y cyhoedd yn y proffesiynau a’r NMC
- datgan a chynnal safonau priodol o ran ymddygiad a pherfformiad.
Ni fwriedir i sancsiynau fod yn gosb i’r nyrs, y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio.
Penderfynu ar sancsiynau
Bydd paneli bod amser yn ystyried y sancsiynau yn y drefn o orchymyn rhybuddio i orchymyn dileu.
Gorchymyn rhybudd
Rhybuddir y nyrs, y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio am eu hymddygiad ond caniateir iddynt ymarfer heb unrhyw gyfyngiad. Gall y gorchymyn rhybudd bara o flwyddyn i bum mlynedd.
Gorchymyn amodau ymarfer
Mae’r gorchymyn hwn yn cyfyngu ar ymarfer nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio am hyd at dair blynedd, a bydd yn rhaid i banel cymhwyster i ymarfer ei adolygu cyn diwedd y cyfnod hwn.
Byddwn yn ei ddefnyddio pan ystyrir y gellir ymdrin â’r pryderon a nodwyd o ran eu hymarfer trwy gyfrwng ailhyfforddi neu asesu.
Bydd yn rhaid i’r nyrs, y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio gydymffurfio â’r cyfyngiadau neu’r cyfarwyddiadau er mwyn gallu ymarfer. Er enghraifft, gellir eu cyfyngu rhag gallu gweithio mewn lleoliad penodol neu eu gorchymyn i ailhyfforddi mewn maes penodol.
Darllenwch ragor am orchmynion amodau ymarfer
Gorchymyn atal dros dro
Mae gorchymyn atal dros dro yn atal y nyrs, y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio rhag ymarfer am gyfnod penodedig.
Gorchymyn dileu
Os caiff enw nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio eu dileu o’n cofrestr, ni chaniateir iddynt weithio fel nyrs neu fydwraig yn y DU, neu fel cydymaith nyrsio yn Lloegr.
Os yw nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio yn destun sancsiwn ar hyn o bryd, byddwch yn gallu gweld hyn wrth chwilio am eu henw ar y gofrestr.