Mae’r Gwasanaeth Cefnogaeth Cyhoeddus yn sicrhau bod cleifion, gofalwyr a’r cyhoedd yn cael eu cefnogi trwy gydol y broses o addasrwydd i ymarfer.
Cyfarfodydd cefnogaeth cyhoeddus
Os ydych chi wedi codi pryderon am rywun ar ein cofrestr ac rydym ni’n penderfynu ymchwilio, mae ein Swyddogion Cefnogaeth Cyhoeddus yno i’ch cefnogi chi.
Gallan nhw eich cyfarfod chi, egluro beth sy’n digwydd nesaf, gwrando arnoch chi, gwneud yn siŵr bod gynnon ni’r holl wybodaeth rydym ni ei angen ac egluro unrhyw benderfyniadau rydym ni’n eu gwneud.
Canfod mwy am y Gwasanaeth Cefnogaeth Cyhoeddus (PSS)
Cymorth i Dystion
Os ydych chi’n cael eich gofyn i fynychu gwrandawiad fel tyst, gall ein tîm cyswllt tystion eich helpu. Gallan nhw eich cefnogi cyn, yn ystod ac ar ôl y gwrandawiad.
Canfod mwy am y tîm cyswllt tystion a bod yn dyst
Cymorth Annibynnol
Os ydych chi wedi codi pryderon gyda ni, gallwch gael cymorth annibynnol a ddarperir gan Cymorth i Ddioddefwyr.
Mae’r gwasanaeth hwn ar gael 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Ffôn: 0300 303 3731
Addasiadau rhesymol a gwybodaeth hygyrch
Os ydych chi angen math penodol o gymorth neu addasiad, rydym ni’n fwy na bodlon i helpu.
Gadewch i ni wybod cyn gynted â phosibl fel y galwn ni wneud yn siŵr bod gynnon ni’r trefniadau cywir mewn lle.
Rydym ni hefyd wedi rhywfaint o wybodaeth hygyrch ar addasrwydd i ymarfer ar gyfer pobl sy’n canfod darllen yn anodd. Mae’r rhain yn cael eu hadnabod fel canllawiau hawdd i’w darllen.
- Canllaw hawdd i’w ddarllen ar gyfarfodydd cefnogaeth cyhoedduss
- Canllaw hawdd i’w ddarllen ar y camau addasrwydd i ymarfer
- Gwybodaeth hawdd i’w darllen ar gyfer tystion
- Canllaw hawdd i’w ddarllen ar sut rydym ni’n gweld os yw nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio yn ddiogel i wneud ei swydd
- Canllaw hawdd i’w ddarllen ar y bobl sy’n gysylltiedig â’ch achos
Related pages
- Pwy ydyn ni a sut gallwn ni helpu
- Gyda phwy ddylech chi godi pryder
- Beth sy’n digwydd pan rydym ni’n derbyn eich pryder
- Ymchwilio i'ch pryder
- Archwilio achosion
- Cyfarfodydd a gwrandawiadau
- Sut rydym ni’n dod i ganlyniad a beth i’w ddisgwyl ar ôl gwrandawiad
- Eich cefnogi chi yn ystod y broses addasrwydd i ymarfer
- Geirfa