Codi pryder gyda chyflogwr nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio
Yn y rhan fwyaf o achosion, y peth gorau yw dechrau gan godi eich pryder â gweithle’r nyrs, y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio, a byddwn fel rheol yn argymhell gwneud hyn cyn dod aton ni.
Mae cyflogwr fel rheol yn y lle gorau i ddatrys problemau’n gyflym ac yn deg.
Gallant wedyn benderfynu atgyfeirio rhywun aton ni unwaith y maen nhw wedi ymchwilio i’ch problem eu hunain. Gellir defnyddio’r holl wybodaeth maen nhw’n ei chasglu yn ystod ymchwiliad mewnol gan ein hymchwiliadau ni a chyflymu’r broses yn gyffredinol.
Os nad ydych chi wedi codi’ch pryder yn lleol â chyflogwr y nyrs, y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio, efallai bydd ein tîm sgrinio yn siarad am hyn â chi.
Canfod mwy am sut i gwyno i’r GIG
Canfod mwy am Wasanaethau Cyngor a Chyswllt Cleifion (PALs) yn eich ardal chi
Mae nifer o sefydliadau a all eich cefnogi chi pan fyddwch yn codi pryderon â’r GIG fel Healthwatch neu Wasanaeth eiriolaeth cwynion y GIG.
Os ydych am godi pryder am wasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol yn lle unigolyn, cysylltwch â’r Comisiwn Ansawdd Gofal (CQC). Gall Cymdeithas y Cleifion hefyd eich helpu codi pryder â’r CQC.
Llinell gymorth atgyfeiriadau
Unwaith rydych chi wedi penderfynu mai ni yw’r sefydliad iawn i godi eich pryder ag ef, ffoniwch ein llinell gymorth atgyfeiriadau. Mae yno ar gyfer unrhyw aelod o’r cyhoedd sy’n ystyried codi pryder am nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio. Gallwn ni egluro mwy am bwy ydyn ni, sut gallwn ni eich helpu chi ac yn fwyaf pwysig, pa gymorth gallwn ni ei gynnig i chi.
Ffoniwch ni ar 020 3307 6802. Bydd rhai galwadau’n cael eu recordio i helpu ni hyfforddi cydweithwyr a monitro ansawdd y cymorth rydym ni’n ei roi. Gallwn ddefnyddio’r recordiad i wirio manylion am atgyfeiriadau a chwynion addasrwydd i ymarfer. Mae mwy o wybodaeth yn ein hysbysiad preifatrwydd.
Nid ydyn ni’n cyhoeddi unrhyw un o’r pryderon sy’n cael eu codi gyda ni, er bod rhaid i ni rannu rhywfaint o’r manylion yn ein pryder ag eraill, fel cyflogwyr er mwyn casglu’r dystiolaeth iawn.
Os nad yw eich pryder am nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio, cewch restr o reoleiddwyr all eich helpu chi isod.
Rheoleiddiwr |
Pwy maen nhw’n eu rheoleiddio |
Rhif ffôn |
Cyngor Meddygol Cyffredinol (CMC) | Meddygon | 0845 357 8001 |
Cyngor Deintyddol Cyffredinol (CDC) | Deintyddion, therapyddion deintyddol, hylenyddion deintyddol, nyrsys deintyddol, technegwyr deintyddol, technegwyr deintyddol clinigol a therapyddion orthodontig | 020 7887 3800 |
Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC) | Therapyddion celfyddydau, gwyddonwyr biofeddygol, ciropodyddion, podiatryddion, gwyddonwyr clinigol, dietegwyr, dosbarthwyr cymhorthion clywed, therapyddion galwedigaethol, ymarferwyr yr adran lawdriniaethau, orthoptwyr, parafeddygon, ffisiotherapyddion, prosthetyddion ac orthotyddion, radiograffwyr a therapyddion iaith a lleferydd | 020 7582 0866 |
Cyngor Optegol Cyffredinol (COC) | Optegwyr | 020 7580 3898 |
Cyngor Ciropracteg Cyffredinol (CCC) | Ciropractwyr | 020 7713 5155 |
Cyngor Osteopathig Cyffredinol (COsC) | Osteopathwyr | 020 7357 6655 |
Cyngor Fferyllol Cyffredinol (CFfC) | Fferyllwyr, technegwyr fferyllol (ar y gofrestr wirfoddol) a mangreoedd fferyllfeydd ym Mhrydain Fawr | 020 3365 3400 |
Comisiwn Ansawdd Gofal (CAG) | Gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i oedolion yn Lloegr | 03000 616161 |
Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd (OSGI) | Yn gwneud penderfyniadau terfynol ar gwynion heb eu datrys gan y GIG yn Lloegr | 0345 015 4033 |
Gofal Cymdeithasol Cymru | Gweithwyr gofal cymdeithasol, gweithwyr gofal cymdeithasol wedi cymhwyso a myfyrwyr gwaith cymdeithasol ar gyrsiau gradd a gymeradwyir yng Nghymru | 0845 070 0399 |
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru | Gwasanaethau’r GIG a gwasanaethau gofal iechyd annibynnol ledled Cymru | 0300 062 8163 |
Arolygiaeth Gofal Cymru | Gofal cymdeithasol a gofal plant yng Nghymru | 0300 7900 126 |
Cyngor Gofal Cymdeithasol Gogledd Iwerddon (NISCC) | Gweithwyr gofal cymdeithasol, gweithwyr gofal cymdeithasol wedi cymhwyso, a myfyrwyr gwaith cymdeithasol ar gyrsiau gradd a gymeradwyir yng Ngoledd Iwerddon | 02890 417600 02890 239340 (Ffôn testun) |
Cymdeithas Fferyllol Gogledd Iwerddon (PSNI) | Fferyllwyr a mangreoedd fferyllfeydd yng Ngogledd Iwerddon | 02890 326927 |
Cyngor Gwasanaethau Cymdeithasol yr Alban (SSSC) | Gweithwyr gofal cymdeithasol, gweithwyr gofal cymdeithasol wedi cymhwyso a myfyrwyr gwaith cymdeithasol ar gyrsiau gradd a gymeradwyir yn yr Alban | 0845 603 0891 |
Gwell gofal iechyd yr Alban | Ysbytai a chlinigau annibynnol yn yr Alban | 0141 225 6999 |
Arolygiaeth Gofal (Yr Alban) | Gwasanaethau gofal yn yr Alban | 0345 600 9527 |
Gwaith Cymdeithasol Lloegr | Gweithwyr cymdeithasol yn Lloegr | 0808 196 2274 |
Yr Awdurdod Rheoli a Gwella Ansawdd | Iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon | 028 9536 1111 |
Ar hyn o bryd nid yw Cynorthwywyr gofal iechyd (CGIau) wedi eu rheoleiddio yn y DU. Os oes gan glaf neu aelod o’r cyhoedd gŵyn am gynorthwyydd gofal iechyd, dylent godi eu pryderon â’r sefydliad mae’r cynorthwyydd gofal iechyd yn gweithio iddo. |
Rhannu eich gwybodaeth â ni
Rydn ni’n annog pawb sy’n codi pryder gyda ni i roi eu manylion cyswllt i ni. Mae rhannu eich gwybodaeth â ni yn bwysig gan ei fod yn golygu ein bod yn fwy tebygol o allu ymchwilio eich pryder.
Yn y mwyafrif o achosion, ar ôl i chi godi pryder, bydd angen i ni gysylltu â chi i ganfod mwy o wybodaeth, gwneud yn siŵr bod gynnon ni’r holl ddogfennaeth gallwn ni ei fod ei hangen ac i egluro’r broses i chi.
I wneud hyn, mae angen ffordd arnon ni i gysylltu â chi. Mae bod â’ch manylion cyswllt hefyd yn caniatáu i ni eich diweddaru o’n proses a gadael i chi wybod y canlyniad.
Gallwch adael ein tîm sgrinio wybod yr hoffech chi barhau’n anhysbys trwy gydol y broses er eich bod wedi rhoi eich manylion i ni. Byddan nhw’n gwneud popeth posibl i fodloni hyn, ond ni allwn bob tro warantu y bydd yn bosibl, er enghraifft os bydd angen i chi fynychu gwrandawiad.
Os ydych chi’n dewis cyflwyno pryder i ni heb rannu’ch manylion, ni allwn ni gysylltu â chi a gall hyn olygu weithiau na allwn fynd â’ch pryder yn ei flaen.
Mae hyn yn golygu ei bod yn llawer mwy anodd i ni eich helpu chi, gweithredu ar y pryderon rydych chi wedi’u codi gyda ni neu adael i chi wybod canlyniad unrhyw ymchwiliad y gallwn ni ei wneud.
Rhannu eich atgyfeiriad
Er mwyn ymchwilio i’ch pryder yn iawn, ar rai adegau bydd angen i ni ddatgelu rhywfaint o’r wybodaeth rydych chi wedi’i rhannu.
Rydym ni’n aml angen rhannu manylion y pryder â’r nyrs, y fydwraig neu’r cydymaith nyrsio a’u cyflogwr, gan ein bod ni angen casglu tystiolaeth a fydd o gymorth heb unrhyw ymchwilio.
Related pages
- Pwy ydyn ni a sut gallwn ni helpu
- Sut rydym ni’n rheoleiddio a’r mathau o bryderon rydym ni’n gallu eu hymchwilio
- Gyda phwy ddylech chi godi pryder
- Beth sy’n digwydd pan rydym ni’n derbyn eich pryder
- Ymchwilio i'ch pryder
- Archwilio achosion
- Cyfarfodydd a gwrandawiadau
- Sut rydym ni’n dod i ganlyniad a beth i’w ddisgwyl ar ôl gwrandawiad
- Eich cefnogi chi yn ystod y broses addasrwydd i ymarfer
- Geirfa