Sut rydym ni’n rheoleiddio
Mae rhaid i nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio feddu ar y sgiliau, yr wybodaeth, yr iechyd a’r cymeriad i wneud ei swydd yn ddiogel ac yn effeithiol. Rydym ni’n galw hyn yn addasrwydd i ymarfer, a’n rôl ni fel rheoleiddiwr yw gwneud yn siŵr bod nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio yn bodloni ein safonau.
Mae ein disgwyliadau wedi eu gosod allan yn y Cod, sy’n disgrifio’r safonau proffesiynol mae rhaid i nyrsys, bydwragedd a chymdeithion nyrsio eu bodloni i fod yn gofrestredig gyda ni er mwyn ymarfer yn y DU.
Fel rheoleiddiwr, nid cosbi pobl am bethau sydd wedi digwydd yn unig yw ein rôl, ond i wneud yn siŵr bod nyrsys, bydwragedd a chymdeithion nyrsio yn bodloni’r safonau maen nhw eu hangen i ymarfer yn ddiogel.
Os ydych chi’n teimlo nad yw nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio yn bodloni ein safonau, gallwch godi pryder gyda ni. Fodd bynnag, byddem fel rheol yn awgrym codi eich pryder â’u cyflogwr yn gyntaf.
Y mathau o bryderon rydym ni’n gallu eu hymchwilio
Mae ein pwerau cyfreithiol yn caniatáu i ni ymchwilio i ddau fath o bryder:
- Pryderon ynghylch cofnod twyllodrus neu anghywir yn ein cofrestr
- Pryderon ynghylch addasrwydd i ymarfer nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio
Gall pryderon ynghylch addasrwydd i ymarfer person proffesiynol i ymarfer fod yn seiliedig ar y canlynol:
- Camymddwyn
- Diffyg cymhwysedd
- Collfarnau troseddol a rhybuddion
- Iechyd
- Heb fod â’r sgiliau yn yr iaith Saesneg sydd eu hangen
- Penderfyniad gan reoleiddiwr arall
Related pages
- Pwy ydyn ni a sut gallwn ni helpu
- Gyda phwy ddylech chi godi pryder
- Beth sy’n digwydd pan rydym ni’n derbyn eich pryder
- Ymchwilio i'ch pryder
- Archwilio achosion
- Cyfarfodydd a gwrandawiadau
- Sut rydym ni’n dod i ganlyniad a beth i’w ddisgwyl ar ôl gwrandawiad
- Eich cefnogi chi yn ystod y broses addasrwydd i ymarfer
- Geirfa