Pan ydym yn derbyn pryder am nyrs, bydwraig neu gydymaith nyrsio, rydym yn gofyn i’r rhai a fynegodd y pryder i roi gwybod i ni os oes unrhyw un arall wedi gweld yr hyn a ddigwyddodd, wedi gweld rhan o’r digwyddiad dan sylw neu sydd â gwybodaeth gefndir a allai fod yn ddefnyddiol i ni.
Pan ydym yn dechrau ymchwilio i’r pryderon hyn, byddwn yn siarad â’r tystion hyn i greu darlun mwy o’r hyn a ddigwyddodd.
Pwy all fod yn dyst?
Pan fydd rhywun yn codi pryder gyda ni, mae’n aml yn ymwneud â phethau sydd wedi digwydd yn y gweithle. Oherwydd hyn, mae ein tystion yn aml yn gydweithwyr i’r person yr ymchwilir iddo, gan gynnwys cyd-nyrsys, bydwragedd, cymdeithion nyrsio neu gynorthwywyr gofal.
Gall rhai o’n tystion hefyd fod yn aelodau o’r cyhoedd neu’n gleifion. Os yw tyst yn glaf, byddwn yn aml yn siarad â’r gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â’u gofal cyn i ni benderfynu cysylltu â nhw. Mae hyn fel nad ydym yn effeithio ar eu hiechyd neu eu lles mewn unrhyw ffordd.
Beth mae tyst yn ei wneud?
Mae tystion yn darparu adroddiad ysgrifenedig neu lafar o'r mater yr ymchwilir iddo. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen i chi roi tystiolaeth mewn gwrandawiad addasrwydd i ymarfer, a all ddigwydd yn rhithwir, yn bersonol yn un o’n canolfannau gwrandawiadau neu gymysgedd o’r ddau.
Dysgu rhagor am fynychu gwrandawiad
Efallai nad ydych wedi gweld y digwyddiad ond efallai y byddwch yn gallu darparu gwybodaeth gefndir neu ddogfennau sy'n ymwneud â'r achos. Mae’r hyn a welsoch, a glywsoch neu a wyddoch yn bwysig, ond mae angen i ni ddeall y darlun ehangach a deall cymaint â phosibl am y digwyddiad. Mae hyn yn golygu y gallai'r manylion lleiaf ein helpu yn ein hymchwiliadau. Gall eich cyfrif helpu i sicrhau bod ein hymchwiliadau yn drylwyr ac yn deg.
Bydd y person sy’n ymchwilio i’r achos wedi edrych ar yr holl dystiolaeth a bydd am siarad â chi i’w helpu i wneud penderfyniad ynglŷn â sut i fwrw ymlaen â’r achos.
Os ydych chi'n nyrs, yn fydwraig, yn gydymaith nyrsio neu'n weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall
Os ydych chi’n nyrs, yn fydwraig neu’n gydymaith nyrsio, mae’n ofynnol i chi gydweithredu â’n hymchwiliadau fel rhan o’r Cod. Os ydych chi’n weithiwr meddygol neu ofal iechyd proffesiynol gwahanol, efallai y bydd gofyniad tebyg ar eich safonau proffesiynol eich hun i gynnal ymchwiliadau addasrwydd i ymarfer.
Mewn amgylchiadau prin ac eithriadol, gellir cyflwyno gwŷs ffurfiol i dyst. Mae gwŷs yn ofyniad cyfreithiol i rywun ymddangos mewn gwrandawiad. Maent yn caniatáu i ni gymryd camau cyfreithiol os oes angen ond mae hyn yn rhywbeth y byddem yn ystyried ei wneud dim ond pe byddai pob llwybr arall wedi’i archwilio a’i ddihysbyddu.
Cysylltu â ni ynglŷn â bod yn dyst
Rydym yn gwybod y gall bod yn dyst achosi straen. Os ydych chi’n poeni am fod yn dyst, byddem yn eich annog i siarad ag aelod o’n tîm Cyswllt Tystion am ragor o wybodaeth neu gymorth. Mae ein swyddogion cyswllt tystion yn weithwyr NMC sy’n gyfrifol am ddarparu gwybodaeth a chymorth i chi drwy gydol eich amser fel tyst.
Dysgu rhagor am y cymorth y gallwn ni ei ddarparu.