Rydym yn anelu at ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl, ond rydym yn gwybod ein bod yn gwneud camgymeriadau weithiau.
Bydd eich hadborth yn ein helpu i wella a sicrhau ein bod yn ymateb i’ch pryderon yn y ffordd orau a allwn.
Cyn i chi ddechrau
I rai gwasanaethau, mae ffyrdd gwahanol i roi adborth neu wneud cwyn. Nid yw ein proses gwynion yn gallu cael ei defnyddio i newid canlyniad achos addasrwydd i ymarfer, Ond byddwn yn ceisio helpu os nad ydych yn siwr am beth i’w wneud nesaf.
Os yw eich adborth neu gŵyn am:
- nyrs, bydwraig neu gyswllt nyrsio ar ein cofrestr, make a referral
- penderfyniad mewn achos: Pan fyddwn yn gwneud penderfyniad mewn achos, byddwn yn cynnwys gwybodaeth am beth i’w wneud os nad ydych yn hapus â’r canlyniad. Os nad ydych yn siwr, gallwch gysylltu â’ch swyddog achosion fydd yn gallu rhoi cyngor i chi ar y ffordd orau i weithredu.
- canlyniad achos addasrwydd i ymarfer, codwch ef â’ch swyddog achosion
- penderfyniadau datgelu gwybodaeth o dan ddeddfwriaeth diogelu data, gweler ein hadran Data Protection and Freedom of Information
- anghydfodau cytundebol neu fasnachol â ni, cysylltwch â’r rheolwr contract rydych wedi bod yn delio ag ef/hi.
- gweithio i’r CNB, cysylltwch â’n tîm Adnoddau Dynol neu raise a whistleblowing concern
Byddwn yn ymdrin â chwynion eraill amdanom o dan ein proses cwynion corfforaethol.
Siaradwch â’r unigolyn rydych wedi bod yn delio ag ef/hi yn gyntaf
Byddem yn eich annog yn gyntaf i gysylltu â’r unigolyn rydych wedi bod yn delio ag ef/hi yn y CNB a dweud wrtho/wrthi am y broblem. Dylai allu eich helpu i ddatrys hyn.
Gwneud cwyn
Os nad ydych wedi gallu datrys eich cwyn, cysylltwch gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.
Gallwch wneud hyn ar ran perthynas neu aelod o’r teulu.
Gwnewch hyn cyn gynted â phosibl ar ôl i’r digwyddiad ddigwydd.
Rydym fel arfer yn ymchwilio i gwynion o fewn 12 mis o’r digwyddiad neu pan ddaw i’ch sylw.
Gallwch hefyd gysylltu â ni ar y ffôn os nad ydych yn gallu defnyddio’r ffurfflen ar-lein:
Teleffon: 020 7681 5830
Lawrlwythwch ein "How to make a complaint" easy read document
Sut y byddwn yn trafod eich cwyn
- Byddwn yn anfon cydnabyddiaeth atoch o fewn dau ddiwrnod gwaith.
- Byddwn hefyd yn rhoi galwad i chi i drafod eich pryderon a chadarnhau beth sy’n digwydd nesaf.
- Byddwn yn ceisio datrys eich cwyn mewn pum niwrnod gwaith, ond gall gymryd mwy os oes angen i ni gyflawni ymchwiliad.
- Byddwn yn rhoi enw a manylion cyswllt yr unigolyn sy’n ymdrin â’ch cwyn.
- Cyn gynted â’n bod yn deall eich cwyn yn llawn a’r canlyniad a ddymunwch, byddwn yn cyflawni ein hymchwiliad ac yn ymateb i chi o fewn 20 diwrnod gwaith.
- Os oes angen rhagor o amser i ymchwilio i’ch cwyn, byddwn yn rhoi gwybod i chi.
Byddwn yn ymateb i unrhyw bryderon yn gyflym ac yn deg bob amser, yn unol â’n Corporate Complaints Policy (Cymraeg) â’n NMC values and behaviours.
Os ydych yn anhapus â’r canlyniad
Rydym yn hapus i drafod unrhyw gwestiynau ychwanegol sydd gennych dros y teleffon.
Fodd bynnag, byddwn yn ailagor y gŵyn yn unig os oes gennych dystiolaeth newydd i ni ei hystyried. Gallwch ddarparu rhagor o wybodaeth trwy ein galw ar 020 7681 5830.
Parch i’n staff
Rydym yn croesawu eich bod yn codi pryderon neu gwynion am ein gwaith. Ac rydym am eich cynorthwyo i wneud hyn. Fodd bynnag ni fyddwn yn goddef ymddygiad afresymol nac annerbyniol tuag at ein staff.
Rydym yn gofyn i chi fod yn gwrtais ac yn barchus wrth gysylltu â ni.
Os ydym yn ystyried bod eich ymddygiad yn annerbyniol, byddwn yn trafod hyn â chi ac yn gofyn i chi roi’r gorau iddi. Os bydd eich ymddygiad yn parhau, gallwn benderfynu gweithredu i reoli neu gyfyngu ar eich cyswllt â’r CNB.
Gallwch ddarllen mwy am y broses hon yn ein Unreasonable or unacceptable behaviour policy.