Rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost
Rhifau ffôn, cyfeiriadau e-bost a ffyrdd o gysylltu â ni
Cyn i chi gysylltu
Os ydych wedi’ch cofrestru â ni, gallwch ganfod eich holl fanylion cofrestru yn eich cyfrif CNB Ar-lein, gan gynnwys pryd y disgwylir i chi ailddilysu.
Ni allwn ymateb i geisiadau unigol am ddyddiadau ailddilysu trwy e-bost neu ffôn gan y gall hyn gael ei ganfod yn eich cyfrif CNB Ar-lein.
Gallwch ganfod atebion hefyd i lawer o ymholiadau cyffredin yn ein hadran gofrestru a’n canolfan wybodaeth Covid-19.
Cyfeiriadau e-bost
Cofrestru
Er mwyn ein helpu i ymateb i’ch ymholiad, darparwch eich PIN, PRN neu ID Ymgeisydd yn eich e-bost, os oes gennych un.
Peidiwch ag anfon eich ymholiad i fwy nac un blwch post gan y bydd hyn yn achosi oediadau. Byddwn yn ymateb i’ch e-bost cyn gynted ag y gallwn – fel arfer o fewn deng niwrnod gwaith.
- Os gwnaethoch hyfforddi yn y DU neu wedi’ch cofrestru â ni: UKenquiries@nmc-uk.org
- Os gwnaethoch gychwyn cais trwy ein llwybr UE/AEE a thalu eich ffi asesu erbyn 31 Rhagfyr 2020: EU.enquiries@nmc-uk.org
- Os gwnaethoch hyfforddi y tu allan i’r DU: Cysylltwch â ni am gofrestriad tramor
Rhifau teleffon
Gallwch gysylltu a ni trwy deleffon 08:00–17:45 Dydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio gwyliau banc).
Ceisiwch osgoi’r adegau prysuraf sydd trwy’r dydd, Dydd Llun a dydd Mawrth i ddydd Gwener rhwng 10:00 a 12:00.
Os ydych yn ymgeisydd rhyngwladol i’r gofrestr a’ch bod wedi cyflwyno’ch holl ddogfennau i’w hasesu, neu wedi ymateb i gais am wybodaeth, arhoswch am 35 niwrnod cyn cysylltu â ni. Yn anffodus, nid yw’r ganolfan gyswllt yn gallu darparu unrhyw wybodaeth na diweddariad ychwanegol hyd bod 35 niwrnod wedi mynd heibio.
- Ymholiadau cyffredinol ac addasrwydd i ymarfer: 020 7637 7181
- Ymholiadau cofrestru: 020 7333 9333
- Ymholiadau rhyngwladol: 020 7333 6600
I glywed eich opsiynau yn y Gymraeg, galwch 0203 307 6803
Sylwch y bydd yr alwad gyntaf hon yn cael ei hateb yn y Saesneg, ond bydd opsiwn i barhau â'r alwad ffôn yn y Gymraeg yn cael ei drefnu trwy alwad yn ôl o fewn tri diwrnod gwaith.
Ffyrdd eraill o gysylltu â ni
- Gwneud cais rhyddid gwybodaeth i ni
- Gwneud cais diogelu data i ni
- Gwneud cwyn i ni
- Cysylltwch â’n Tîm Cyfryngau os ydych yn newyddiadurwr ag ymholiad.
Trafod eich cofrestriad â thrydydd parti
Os hoffech i drydydd parti (megis perthynas neu asiantaeth/cwmni nyrsio) gysylltu â chi am eich cofrestriad ar eich rhan, mae’n rhaid i ni gael cadarnhad ysgrifenedig oddi wrthych.
Cyn gynted ag y derbyniwn y ffurflen wedi’i chwblhau, byddwn yn diweddaru eich ffeil. Gall gymryd hyd at bum niwrnod gwaith i hyn ymddangos ar eich ffeil.
Ni fyddwn yn gallu trafod unrhyw fanylion â’r trydydd parti hyd bod y broses hon wedi’i chwblhau.
Mae cyflogwyr yn gallu cyrchu gwybodaeth am eich dyddiad cofrestru, y rhan o’r gofrestr rydych chi arni ac a ydych yn weithredol ar hyn o bryd ar y gofrestr gan ddefnyddio’r gwasanaeth cadarnhau cyflogwyr.
Os oes angen gwybodaeth ychwanegol arnynt, yna bydd angen i chi geisio’r caniatâd hwn ar eu cyfer.
Parch at ein staff
Rydym yn croesawu eich bod yn lleisio pryderon neu gwynion am ein gwaith. Ac rydym am eich cynorthwyo i wneud hyn. Fodd bynnag ni fyddwn yn goddef ymddygiad afresymol nac annerbyniol tuag at ein staff.
Gofynnwn i chi fod yn gwrtais a pharchus wrth gysylltu â ni.
Os ydym yn ystyried bod eich ymddygiad yn annerbyniol, byddwn yn trafod hyn â chi ac yn gofyn i chi roi’r gorau iddi. Os yw’ch ymddygiad yn parhau gallwn benderfynu gweithredu i reoli neu gyfyngu ar eich cyswllt â’r CNB NMC.
Gallwch ddarlen mwy am y broses hon yn ein Polisi ymddygiad afresymol neu annerbyniol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am hyn cysylltwch â’n tîm cwynion.