2 Stratford Place - canolfan gwrandawiadau
Cyfeiriad post, manylion cyswllt ac oriau agor ar gyfer 2 Stratford Place
Cyfeiriad:
Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth
Llawr 6
2 Stratford Place
Llundain
E20 1EJ
Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Gwener: 08:00-18:00
Teleffon: 020 7462 5800 / 5801
Mynediad
O fewn yr adeilad, mae lifft i’r chweched llawr. Mae mynediad heb risiau i’r adeilad i lefel y stryd.
Mae lifft i lawr o Westfield i lefel y stryd (lle mae’r fynedfa i’n hadeilad wedi’i lleoli).
Cyfarwyddiadau
Lawrlwythwch fersiwn gyfeillgar i brint o gyfarwyddiadau ar gyfer Stratford
Ar y tiwb neu drên
Stratford (Llinellau Central a Jubilee, Rheilffordd Ysgafn Docklands, Overground Llundain a threnau o Fenchurch Street, Liverpool Street, Ipswich, Norwich a Southend)
Gadewch eich trên a dilynwch yr arwyddion i Westfield, Stratford City a Pharc Olympaidd y Frenhines Elizabeth.
Os byddwch yn defnyddio’r llwybr tanffordd, mae Stratford Place yn syth o’ch blaen pan adewch yr orsaf ac mae’r ail set o ddrysau ar y chwith cyn i chi gyrraedd gorsaf bysiau Stratford City.
Os byddwch yn defnyddio’r bont dros y traciau rheilffordd, pan gyrhaeddwch ddiwedd y bont cerddwch i lawr y grisiau ar yr ochr dde a bydd Stratford Place ar eich ochr chwith. Mae’r ail set o ddrysau ar y chwith cyn i chi gyrraedd gorsaf bysiau Stratford City.
Stratford International (Llinell Gyflym Iawn o St Pancras)
Gadewch yr orsaf a chymerwch y grisiau symudol i mewn i Ganolfan Westfield; ewch trwy’r Ganolfan ar y boulevard wedi’i bedestraneiddio. Dilynwch y llwybr o gwmpas y ganolfan siopa a chymerwch y grisiau a’r grisiau symudol ar eich ochr chwith, cyn i chi groesi’r llinellau rheilffordd; bydd Stratford Place ar eich ochr chwith. Y fynedfa yw’r ail set o ddrysau ar eich ochr chwith, ar y llawr isaf o flaen gorsaf bysiau Stratford City
Mewn car
Mae canolfan gwrandawiad Stratford yn hygyrch o’r A12 a’r A13. Maes parcio C yw’r agosaf at y fynedfa.
Asesiad risg Covid-19
Mae’r asesiad hwn yn amlinellu’r trefniadau diogelwch y byddwn yn eu defnyddio i gadw’n cydweithwyr a’n hymwelwyr yn ddiogel ac atal lledaeniad coronafeirws.