NMC seeking two new lay Council members
9 January 2017
The Nursing and Midwifery Council (NMC) is seeking two new lay Council members to join the Chair and nine other Council members on the governing body of the NMC.
The Chair of the NMC, Professor Dame Janet Finch, said:
“These are challenging and rewarding roles influencing an important public protection agenda in a sector that is changing at a pace we have not seen before.”
“The Council has set an ambitious strategy to be a dynamic, innovative, leading regulator. We have already begun an exciting programme of transformation to help us achieve this and deliver better value for money.”
“As a Council member you will play a vital role in shaping and delivering our plans. We are looking for individuals of outstanding calibre with experience and expertise particularly in large scale organisational change either in the public or private sector.”
-End-
Notes for editors
- The Nursing and Midwifery Council exists to protect the public through the regulation of over 692,550 nurses and midwives in England, Wales, Scotland and Northern Ireland. As well as maintaining a register of nurses and midwives allowed to practise in the UK, we also set standards of education, training, conduct and performance so that nurses and midwives can deliver high quality healthcare. We make sure that nurses and midwives keep their skills and knowledge up to date through a regular revalidation process. Nurses and midwives must uphold our professional standards and we have clear and transparent processes to investigate nurses and midwives who fall short of these standards.
- The Council is responsible for setting the strategic direction of the NMC, making sure it remains focused on protecting patients and the public, and overseeing the work of its executive team.
- Under the Nursing and Midwifery Order 2001, the Council must comprise six registrant and six lay members, and have representation from all four UK countries. The vacancies arise following the departure of Quinton Quayle and Amerdeep Somal who had served as lay members of the Council since May 2013.
- Applications for these roles are open to lay candidates from Scotland, Northern Ireland, Wales and England. To be eligible for appointment you must:
a. Not be, and never have been, a registered nurse or midwife; and
b. Not hold qualifications which would entitle you to apply to be a registered nurse or midwife.
- The closing date for applications is Noon 6 February 2017.
- A full information pack and details of how to apply are available at www.odgers.com/60820.
Y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn chwilio am ddau aelod lleyg newydd o'r Cyngor
9 Ionawr 2017
Mae'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth (NMC) yn chwilio am ddau aelod lleyg newydd i'r Cyngor i ymuno â'r Cadeirydd a naw aelod arall o'r Cyngor ar gorff llywodraethu'r NMC.
Dywedodd Cadeirydd yr NMC, y Fonesig Athro Janet Finch:
"Mae'r rhain yn rolau heriol a llawn boddhad sy'n dylanwadu ar agenda pwysig i amddiffyn y cyhoedd mewn sector sy'n newid ar raddfa nad ydym wedi ei gweld o'r blaen."
"Mae'r Cyngor wedi pennu strategaeth heriol i fod yn rheoleiddiwr dynamig, arloesol a blaenllaw. Rydym eisoes wedi dechrau rhaglen gyffrous o drawsnewid i'n helpu i gyflawni hyn a rhoi gwell gwerth am arian.”
"Fel aelod o'r Cyngor byddwch yn chwarae rôl hanfodol yn y gwaith o siapio a chyflwyno ein cynlluniau. Rydym yn chwilio am unigolion arbennig o'r radd flaenaf gyda phrofiad ac arbenigedd yn enwedig mewn newid sefydliadol mawr naill ai yn y sector cyhoeddus neu'r sector preifat."
-Diwedd-
Nodiadau
- Mae'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn bodoli i amddiffyn y cyhoedd drwy reoleiddio dros 692,550 o nyrsys a bydwragedd yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ynghyd â chynnal cofrestr o nyrsys a bydwragedd sy'n cael ymarfer yn y DU, rydym yn pennu safonau ar gyfer addysg, hyfforddiant, ymddygiad a pherfformiad er mwyn i nyrsys a bydwragedd ddarparu gofal iechyd o ansawdd uchel. Rydym yn sicrhau bod gan nyrsys a bydwragedd y sgiliau a'r wybodaeth ddiweddaraf drwy broses ailddilysu gyson. Rhaid i nyrsys a bydwragedd gynnal ein safonau proffesiynol ac mae gennym brosesau clir a thryloyw i ymchwilio i nyrsys a bydwragedd nad ydynt yn cyrraedd ein safonau.
- Y Cyngor sy'n gyfrifol am bennu cyfeiriad strategol yr NMC, gan sicrhau ei fod yn dal i ganolbwyntio ar ddiogelu cleifion a'r cyhoedd, a goruchwylio gwaith ei dîm gweithredol.
- dan Orchymyn Nyrsio a Bydwreigiaeth 2001, rhaid i'r Cyngor gynnwys chwe aelod cofrestredig a chwe aelod lleyg, a chynrychiolwyr o bob un o bedair gwlad y DU. Mae'r swyddi gwag yn codi yn dilyn ymadawiad Quinton Quayle ac Amerdeep Somal a fu'n gweithio fel aelodau lleyg o'r Cyngor ers mis Mai 2013.
- Mae ceisiadau ar gyfer y rolau hyn ar agor i ymgeiswyr lleyg o Gymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y rôl hon rhaid i chi fodloni'r canlynol:
a. Nid ydych, ac nid ydych erioed wedi bod, yn nyrs na bydwraig gofrestredig; aca
b. Nid oes gennych gymwysterau a fyddai'n rhoi hawl i chi wneud cais i fod yn nyrs neu fydwraig gofrestredig. - Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd, 6 Chwefror 2017.
- Mae pecyn gwybodaeth llawn a manylion am sut i wneud cais ar gael yn www.odgers.com/60820.